Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 27 Tachwedd 2018
Amser:
08.30 -
08.56
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Neil Hamilton AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Bydd Arweinydd y Tŷ yn ateb Cwestiynau'r Prif Weinidog ar ran y Prif Weinidog heddiw yn ei absenoldeb.
· Dywedodd y Llywydd fod Gweinidogion yn gwneud datganiadau rhy hir yn y Cyfarfod Llawn a all gymryd dros draean o'r amser a neilltuwyd ar gyfer yr eitem honno. Atgoffodd y Llywydd Arweinydd y Tŷ am yr arferiad na ddylai datganiadau Gweinidogion fod yn fwy na 10 munud.
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes
Dydd Mercher
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Eglurodd Arweinydd y Tŷ nad yw'r Llywodraeth mewn sefyllfa o hyd i drefnu dadl ar yr M4 eto. Mae'n dal yn bosibl y gellid trefnu'r ddadl cyn y Nadolig.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 5 Rhagfyr 2018 -
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 03-18 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud)
Dydd Mercher 9 Ionawr 2019 -
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i'r Gost o Ofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio (60 munud)
· Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru (60 munud)
·
Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor ar 13 Tachwedd i gyfeirio'r Bil Deddfwriaeth (Cymru) at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei ystyried yng Nghyfnod 1. Cytunwyd mai'r terfyn amser ar gyfer adroddiad y Pwyllgor ar y Bil yng Nghyfnod 1 fyddai 22 Mawrth 2019, a'r terfyn amser ar gyfer cwblhau trafodion y Pwyllgor yng Nghyfnod 2 fyddai 24 Mai 2019.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd y gallai'r Pwyllgor fod yn hyblyg o ran pryd y bydd yn cyfarfod yn ystod cyfnod ystyried y Bil.
Cafwyd cefnogaeth gyffredinol ymysg Rheolwyr Busnes i Arweinwyr a Llefarwyr gadw eu cwestiynau yn fyr, ond llai am osod terfyn amser cyfyngedig i ofyn eu tri chwestiwn. Roedd cefnogaeth hefyd ymhlith Rheolwyr Busnes i atgoffa Llefarwyr mai pwrpas cael tri chwestiwn yw eu bod yn datblygu thema, yn hytrach na gofyn tri chwestiwn gwahanol.
Dywedodd Rheolwyr Busnes y byddent yn cefnogi'r Llywydd i gymryd camau i gadw cwestiynau'n fyr. Bydd y Llywydd yn ystyried yr opsiynau ac yn cyflwyno nodyn ar ddechrau'r tymor nesaf.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad mewn egwyddor ar 20 Tachwedd i gyfeirio'r LCM ar y Bil Pysgodfeydd at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cytunodd Rheolwyr Busnes ar y dyddiad cau ar gyfer adrodd sef 12 Chwefror 2019.
Aelodaeth Pwyllgorau
Nododd Rheolwyr Busnes y newid arfaethedig i aelodaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i gael aelod o'r Ceidwadwyr yn lle Plaid Cymru. Nid oedd hynny wedi digwydd eto gan nad yw grŵp y Ceidwadwyr wedi penderfynu ar enwebai.